Y Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4/11/14
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn bresennol: Aled Roberts AC; Jackie Radford; Henry Wilkins (cynrychiolydd grŵp Caerfyrddin); Lindsay Morgan (cynrychiolydd grŵp Abertawe); Jeff Cuthbert AC; Mike Hedges AC; Carol Carpenter (cynrychiolydd grŵp Clwyd); Jead Dowding (cynrychiolydd grŵp Caerdydd); Lisa Bainbridge (Coeliac UK); Sarah Sleet (Coeliac UK); Rhun ap Iorwerth AC; Dr. Geraint Preest; Graham Philips (cynrychiolydd grŵp Abertawe).
2. Ymddiheuriadau: Llyr Gruffydd; Heather Stephen AC
3. Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2014 yn gofnod cywir ac fe'u derbyniwyd.
4. Nid oedd unrhyw faterion yn codi.
5. Y newyddion diweddaraf ynghylch hynt y fenter i gyflenwi bwyd heb glwten: Agorodd SS y drafodaeth. Mae'r ymgyrch yn mynd rhagddi ers blwyddyn ac mae’r arfarchnadoedd yn dechrau ymrwymo i gynnig wyth o'r prif fwydydd: bara gwyn, bara tywyll, rholiau, pasta, cracers, grawnfwydydd brecwast, blawd a bariau grawnfwyd. Mae Asda wedi ymrwymo'n llawn a datblygwyd ap sy'n dangos ar fap pa archfarchnaoedd sy’n cynnig bwydydd y gallant warantu nad ydynt yn cynnwys glwten. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo gyda'r archfarchnadoedd mawr eraill. Yr her nesaf yw annog siopau rhad/cyfleustra i fod yn rhan o'r ymgyrch.
Tynnodd JC sylw at y ffaith bod adrannau 'bwyd heb glwten' i'w cael mewn nifer o archfarchnadoedd ac ymddengys bod y staff wedi'u hyfforddi'n dda ond, er hyn, mae'r bwydydd eu hunain yn ddrud.
Roedd RhapI o blaid dwysáu'r ymgyrch.
Bydd Coeliac UK yn adolygu cynnwys y fasged mewn siopau llai er mwyn caniatáu iddynt gynnig llai nag wyth eitem, gan gydnabod nad oes ganddynt gymaint o le ar eu silffoedd.
Trafodaeth gyffredinol: nwyddau heb glwten mewn siopau masnachfraint, fel M&S mewn gwasanaethau traffyrdd; a yw siopau'n ymwybodol bod cynifer yn dioddef o glefyd seilag; y posibilrwydd o roi 'sêl cymeradwyaeth' i siopau; y posibilrwydd o gynnig gwobrau (aur, arian, efydd) yn seiliedig ar faint y siop; a'r hyn y gellir ei wneud i annog siopau llai i fod yn rhan o'r ymgyrch.
Camau i’w cymryd:
· MH & JC i fwrw ymlaen â'r syniad drwy gynnal trafodaethau â'r Co-operative Group (JC ac MH)
· JC/MH, AR, RhapI a Mark Isherwood efallai i gyflwyno Datganiad Barn ar y cyd i annog siopau llai i werthu rhagor o nwyddau heb glwten (AR a JR)
· Coeliac UK i ddyrannu meysydd cyfrifoldeb penodol i bob AC yn y Grŵp. (SS/LB)
5b. Gorfodi a labelu: Dywedodd LB nad yw asiantaethau gorfodi'n cynnal gymaint o brofion croeshalogi ac y byddai'n gofyn am ragor o wybodaeth, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, am brofion alergenau.
Nodwyd bod Coeliac UK yn trwyddedu marc ansawdd ac yn cynnig tystysgrifau a hyfforddiant ar baratoi bwyd, i fynd i'r afael â materion fel croeshalogi, etc.
Roedd anawsterau'n codi pan oedd arlwywyr yn ddihyder; gan hynny, mae llawer o sefydliadau'n bodloni’r gofynion sylfaenol yn unig.
Nid yw Coeliac UK wedi cysylltu o gwbl â Llywodraeth Cymru i drafod eu polisi yn y maes hwn.
LB: Daw deddfwriaeth newydd yr UE i rym ar 14 Rhagfyr 2014 sy'n golygu y bydd yn rhaid i'r rhai sy'n darparu bwyd dynnu sylw at unrhyw alergenau ar lafar neu'n ysgrifenedig.
Camau i’w cymryd:
· LB i baratoi llythyr i'w anfon at holl fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol Cymru yn gofyn iddynt sut y maent yn rheoli'r gwaith o restru alergeau ar hyn o bryd a beth y byddant yn ei wneud ar ôl 14/12.
5c. Y camau nesaf: gweler isod
6. Gwella atebolrwydd: Trafodaeth ar ddarpariaeth mewn ysgolion, gan gynnwys hyfforddiant a chyfrifoldeb. Rhaid ystyried yr ysgolion sydd â cheginau a'r rhai sy'n defnyddio arlwywyr allanol.
Trafodaeth ar safoni'r ddeddfwriaeth yn ymwneud ag ysgolion ac ysbytai a'r ymchwiliad sydd ar y gweill gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad i Arlwyo mewn Ysbytai yn dilyn Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. (Mae'r ddau adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru i'w gweld drwy ddilyn y lincs isod). [1]
Dylai rheoliadau newydd fod ar waith, ond bydd eu heffeithiolrwydd yn dibynnu ar waith monitro'r byrddau iechyd lleol.
Gallai'r Bil Iechyd y Cyhoedd newydd gynnwys adrannau sy'n cyfeirio at ddiet therapiwtig. Daeth yr ymgyghoriad ynghylch y Bil i ben ar 24/6/16 ac mae'r linc i'r ymgynghoriad yma:
http://cymru.gov.uk/consultations/healthsocialcare/white-paper/?lang=cy
Nid yw'r Bil ei hun wedi'i gyflwyno eto yn y Cynulliad.
Camau i’w cymryd:
· LB ac SS i adolygu'r cynigion i weld a oes modd eu gwella
· SS ac LB i holi a oes gan unrhyw gartrefi gofal / awdurdodau lleol yng Nghymru gytundebau ar hyd o bryd i gael hyfforddiant ar glwten
· AR/JR i ymgymryd â gwaith dilynol ar benderfyniad y cabinet ym mis Awst 2013 ynghylch llwybrau gofal sy'n 'disgwyl' i sefydliadau gydymffurfio â'r safonau.
· LB i baratoi pecyn i ysgolion Cymru
7. Diagnosis: Tynnodd LB sylw at ymgyrch hysbysebu sydd ar y gweill yn ymwneud â dull o hunanasesu clefyd seliag yn seiliedig ar ganllawiau nodi ac asesu NICE. Byddai hyn yn lleihau'r nifer sy'n aros am ddiagnosis gan feddygon teulu ac yn gwella'r ffigur presennol o 24% o ran y nifer sy'n cael diagnosis. Mae astudiaeth beilot dros gyfnod o dri mis hefyd yn cael ei hystyried i gynnig prawf mewn fferyllfeydd cymunedol na fyddai'n cynnwys rhoi pin mewn bys i gael gwaed. Y gobaith yw y gellid datblygu partneriaeth gyda fferyllwyr cymunedol. Bydd cam cyntaf yr ymgyrch i hyrwyddo'r profion newydd yn para am ddwy flynedd ac yn cynnwys hysbysebu lefel isel, y cyfryngau cymdeithasol, codi arian a sioeau teithiol i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Rhagwelir y caiff cynllun tymor hir ei baratoi hefyd.
Esboniodd SS fod problem benodol mewn nifer o rannau o Gymru oherwydd amddifadedd. Dylai'r ymgyrch hon fod yn 'holistig' a dylai hyrwyddo'r manteision.
Pwysleisiodd GP y gallai, yn ei brofiad ef, fod yn anodd cyrraedd rhai cleifion: mae pobl iach sy'n poeni'n ddiangen yn ymweld â meddygfeydd ond mae gormod na fyddent yn cymryd rhan yn y profion. Tanlinellwyd pwysigrwydd targedu, a hyrwyddo ymgyrchoedd a gwaith Coeliac UK mewn lleoedd fel canolfannau gwaith ac archfarchnadoedd rhad.
Soniodd JD am y cysylltiadau effeithiol sydd ar waith yn y Fro rhwng clinigau seliag a chlinigau osteoporosis/esgyrn.
Pwysleisiodd GP bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth meddygon teulu a sut y gall symptomau a phresenoldeb chyflyrau eraill (diabetes, anemia, osteoporosis, problemau thyroid) awgrymu'n aml fod y claf yn dioddef o glefyd seliag. Mae meddalwedd Infomatica eisoes ar gael (ac mewn meddygfeydd) sy'n gallu yn tynnu sylw meddygon teulu at y clefyd.
Cafwyd trafodaeth gyffredinol ynghylch diweddaru canllawiau NICE a ddylai gael eu cyhoeddi fis Medi 2015 ac a allai gynnwys trin a rheoli'r cyflwr.
Trafodwyd y pecyn i ysgolion a gynhyrchwyd yn Lloegr ar ôl gweithredu Deddf Plant a Theuluoedd 2014 a'r ddyletswydd i ddarparu bwyd i blant â chyflyrau meddygol.
Trafodwyd cynnal cyfarfodydd yn y dyfodol, gan gynnwys un yng Ngogledd Cymru. Cytunwyd i gyfarfod ym mis Chwefror, mis Mai a mis Hydref/Tachwedd 2015, ac y byddai'r cyfarfod olaf yng Ngogledd Cymru.
Camau i’w cymryd:
· AR/JR holi'r Gweinidog neu Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad am ddefnyddio Infomatica ym meddygfeydd Cymru.
· LB i gadarnhau pryd y caiff y canllawiau eu rhoi ar waith yng Nghymru wedi iddynt gael eu derbyn/cytuno yn Lloegr.
· LB i gysylltu â Llywodraeth Cymru i holi pa gamau cymharol sy'n cael eu cymryd yng Nghymru ar ôl gweithredu'r Ddeddf.
· JR i ychwanegu Rhun at y Grŵp.
· JR i nodi teitlau aelodau'r Grŵp ar wefan y Cynulliad.
· JR i drefnu dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf ar y cyd â CC ac LB.
Daeth y cyfarfod i ben am 7.45pm
CRYNODEB O'R CAMAU I'W CYMRYD:
· JC ac MH i fwrw ymlaen â'r syniad gyda'r Grŵp Cydweithredol (JC ac MH)
· JC/MH, AR, RhapI a Mark Isherwood efallai i gyflwyno Datganiad Barn ar y cyd i annog siopau llai i werthu rhagor o nwyddau heb glwten (AR a JR)
· Coeliac UK i ddyrannu meysydd cyfrifoldeb penodol i bob AC yn y Grŵp. (SS/LB)
· LB i baratoi llythyr i'w anfon at holl fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol Cymru yn gofyn iddynt sut y maent yn rheoli'r gwaith o restru alergenau ar hyn o bryd a beth y byddant yn ei wneud ar ôl 14/12.
· LB ac SS i adolygu'r cynigion i weld a oes modd eu gwella
· SS ac LB i holi a oes gan unrhyw gartrefi gofal / awdurdodau lleol yng Nghymru gytundebau ar hyd o bryd i gael hyfforddiant ar glwten
· AR/JR i ymgymryd â gwaith dilynol ar benderfyniad y cabinet ym mis Awst 2013 ynghylch llwybrau gofal sy'n 'disgwyl' i sefydliadau gydymffurfio â'r safonau.
· LB i baratoi pecyn i ysgolion Cymru
· AR/JR ofyn cwestiynau i'r Gweinidog neu i Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad am ddefnyddio Infomatica ym meddygfeydd Cymru.
· LB i gadarnhau pryd y caiff y canllawiau eu rhoi ar waith yng Nghymru wedi iddynt gael eu derbyn/cytuno yn Lloegr.
· LB i gysylltu â Llywodraeth Cymru i holi pa gamau cymharol sy'n cael eu cymryd yng Nghymru ar ôl gweithredu'r Ddeddf.
· JR i ychwanegu Rhun at y Grŵp.
· JR i nodi teitlau aelodau'r Grŵp ar y dudalen ar y we.
· JR i drefnu dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf ar y cyd â CC ac LB.
[1] Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
Arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai PDF 545 KB
Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 205KB)
Ymateb Llywodraeth Cymru (HTML 27KB)